Os yw perthynas cyplau dibriod yn chwalu,
bydd angen iddynt rannu’r asedau yn eu meddiant, asedau
personol ynghyd ag eiddo. Yr ateb delfrydol yw i gyplau
gyrraedd cytundeb ynghylch y modd mae’r asedau hynny i gael
eu rhannu. Gallwn baratoi Archddyfarniad Ymwahaniad sy’n
adlewyrchu’r cytundeb hwnnw.
Os nad yw’n bosibl cyrraedd cytundeb,
efallai y bydd yn rhaid cynnal achosion Llys i sefydlu pa
fudd, os oes unrhyw fudd o gwbl, y gallai person gael mewn
eiddo a/neu ofyn i’r Llys Orchymyn y dylid gwerthu eiddo
a’r enillion i gael eu rhannu rhwng y partïon. Gall
yr achosion hyn fod yn gostus ac yn faith. Mae’n llawer
gwell dod i gytundeb os yw hynny’n bosibl.
|