|
|
| |
Melanie Hamer
Roedd Melanie yn un o’r
ddau bartner gwreiddiol yn y cwmni yn 1996 wedi cymhwyso
fel Cyfreithiwr yn 1989 gydag Eversheds, Caerdydd. Mae’n
arweinydd yn ei maes mewn Siambrau lle mae’r cwmni yn y
band uchaf ac mae ganddi brofiad sylweddol mewn ysgariadau
lle’r ymdrinnir â symiau mawr o arian.
Mae Melanie wedi bod
yn aelod o Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith ers 1996, gan
ei galluogi i gynrychioli plant. Roedd yn un o’r ddau gyfreithiwr
cyntaf yng Nghymru i gael mynediad i banel arbenigol Cymdeithas
Cyfreithwyr Cyfraith Deulu ( Resolution ).
Caiff Melanie ei hystyried
gan ei chyfoedion fel un o’r cyfreithwyr cyfraith deulu
amlycaf yn Ne Cymru. Mae’n ymgynghorwr cyfreithiol i Grwp
Gofal Maeth Cymru; yn gymdeithasydd o’r Lady Taverners;
yn aelod gweithredol o’r gymuned fusnes leol.
Fe’i cyfwelir yn rheolaidd
ar y radio ynghylch materion cyfraith deulu cyfoes.
Mae Maelanie yn un o drefnwyr
Clwb Busnes Menywod De Cymru a hefyd mae hi yn aelod o’r
Sefydliad o Gyfarwyddwyr.
|
|
|
|
| |

|
|
Thea Hughes
Ar ôl cychwyn ei
gyrfa gyfreithiol yn Eversheds, Caerdydd, symudodd Thea
i arwain cangen o gwmni Hugh James, cyn ymuno â’r
cwmni fel Cymdeithasydd yn 1997. Daeth wedyn yn Bartner
yn 1998.
Caiff Thea ei chyfrif
gan ei chyfoedion fel un o’r cyfreithwyr cyfraith deulu
gorau yn Ne Cymru. Gall Thea gynghori ar chwalu perthynas,
os yw’r partïon yn briod neu’n ddi-briod, ac mae’n
darparu safbwynt cytbwys er mwyn dod i gasgliad teg.
Mae Thea yn ymdrin â
holl agweddau cyfraith deulu ac mae ar Banel Cyfraith Deulu
Cymdeithas y Gyfraith. Mae’n arbenigo yn y materion ariannol
sy’n codi wedi ymwahanu/ysgariad ac mae ganddi wybodaeth
a phrofiad eang yn y maes hwn. Mae hefyd yn ymdrin ag achosion
â gwerth net uchel, yn cynnwys achosion sy’n ymwneud
ag enillwyr y loteri.
Mae Thea yn cyfrannu’n
rheolaidd i storïau cyfoes ar newyddion radio a theledu.
|
|
| |
Rhian Howells
Ymunodd Rhian â’r cwmni yn 2006
fel Partner. Cymhwysodd Rhian fel cyfreithiwr yn 1988 ac
mae wedi bod yn aelod o Banel Cyfraith Deulu Uwch ers 2002.
Mae hefyd yn aelod o Resolution.
Cyn ymuno â’r cwmni, roedd Rhian
yn bartner ac yn bennaeth Adran Cyfraith Deulu yn David
& Snape. Mae Rhian yn Ganolwr Achrededig ac mae’n delio
â holl agweddau Cyfraith Deulu.
Mae gan Rhian flynyddoedd lawer o brofiad
mewn delio ag achosion cymhleth preifat Deddf Plant a gwaith
cymorth atodol Asedau Uchel.
Mae Rhian yn aelod o Rwydwaith Menywod
Busnes y Fro.
|
|
|
|
| |
 |
|
Dianne Evans
Ymunodd Dianne â’r cwmni ym Mai
2003. Mae’n un o ymarferwyr ewyllysiau a phrofeb mwyaf profiadol
Caerdydd. Gweithiai Dianne yn flaenorol gyda dau o bartneriaid
y cwmni yn Eversheds lle roedd Dianne yn bennaeth yr Adran
Brofeb. Mae’n aelod sefydlu’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth
ac Ymarferwyr Ystadau ac yn Gymrawd Cymdeithas y Gweithredwyr
Cyfreithiol.
|
|
| |
David James
Mae David yn Bartner yn y ffyrm ac ers chymhwyso fel cyfreithiwr yn 1991 mae wedi arbenigo mewn cyfraith y teulu. Mae wedi bod yn uwch aelod o Banel Cyfraith Deulu Cymdeithas y Gyfraith ers 2002..
Mae David yn arbenigo ym mhob agwedd o gyfraith y teulu a chyfraith briodasol i gynnwys ysgariad; materion ariannol; dadleuon yn deillio o gyd-fyw; pob pwnc yn ymwneud â phlant (gan gynnwys mabwysiadu); materion yn ymwneud â thrais domestig.
Cyn ymuno â'r cwmni fel Cymdeithasydd yn Hydref 2006 bu David yn bennaeth adran y gyfraith deulu ym Merrils Ede, Caerdydd am rai blynyddoedd.
Roedd David arfer bod yn
ymddiriedolwr o Relate Cymru ac mae wedi cynnig cymorth i
Ganolfan Cysylltu Teulu Caerdydd
|
|
 |
|
| |

|
|
Kate Edwards
Mae Kate yn Gymdeithasydd yn y ffyrm. Cymhwysodd yn Ebrill 2006 ac ers hynny mae wedi arbenigo mewn cyfraith deulu. Treuliodd ei blynyddoedd hyfforddi ym maes cyfraith deulu a lles cymdeithasol.
Mae gan Kate cysylltiadau cryf gyda nifer o elusennau lleol sydd yn ddarparu cymorth i Fenywod; Mae hi yn gadeirydd o Cymorth i Ferched Pontypridd; ac mae ganddo hi cysylltiadau gyda'r Uned Diogelwch Menywod â'r Prosiect Dyn. Mae hi yn gefnogi dioddefwyr o gamdriniaeth domestig ac mae hi yn ddarlithio am y pwnc yn rheolaidd ar lefel genedlaethol.
Mae hefyd yn delio â
materion eraill sy’n ymwneud â chyfraith deulu gan
ymgymryd â dadleuon cyswllt ac achosion o ysgariad.
Mae Kate wrthi’n frwd
ac yn eiddgar yn codi arian i elusennau.
|
|
| |
Sarah Wyburn
Ar ôl gweithio yn ddiweddar yn y Bontfaen, ail-ymunodd Sarah â'r ffyrm fel Cymdeithasydd ym Mis Hydref 2009. Roedd Sarah arfer gweithio i'r ffyrm rhwng 2000 a 2006 a chymhwysodd fel gyfreithiwr yn 2002.
Mae hi wedi arbennigo ym mhob agwedd o gyfraith y teulu trwy gydol ei chyrfa yn cynnwys materion ysgariad,cyllidol a plant ac mae profiad cryn o asedion net uchel ac achosion proffeil uchel.
Mae gan Sarah cyflawnwad i ddarganfod datrysion cyfeillgar ac mae hi yn aelod o Resolution.
|
|
 |
|
| |
 |
|
Jane Chesterman
Ymunodd Jane â Phractis
Cyfraith Deulu Wendy Hopkins fel cyfreithiwr cynorthwyol
yn yr adran Ewyllysiau a Profiant ym mis Medi 2007 yn arbennigo
mewn gwaith Cleientiaid preifat i gynnwys Ewyllysiau, Ymddiredolaethau,
Cynlluniadau treth etifeddiaeth, profiant a gweinyddiaeth
o Ystadau yn ogystal a gwaith gyda’r Llys Amddiffynion i
gynnwys Pwerau Twrnai Parhaol ac apwyntiadau Dirprwyaeth.
Hyfforddodd Jane gydag John Collins a
Partneriaid yn Abertawe ar ôl cyflawni ei gradd yn
y Gyfraith o fewn 2 mlynedd o dan y cynllun cyfymedig a
ddarparwyd gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth
hi hefyd llwyddo gyda dynodiant yn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.
Mae Jane yn aelod o adran profiant Cymdeithas
y Gyfraith ac yn aelod myfyrol o Gymdeithas ymddiredolaethau
a ymarferwyr ystadau. Mae hi hefyd yn aelod o Age Concern
i Gaerdydd a Bro Morgannwg. Pennwyd Jane i eistedd ar bwyllgor
rheolaeth o gofal profedigaeth CRUSE sydd yn elusen sydd
yn arbennigo mewn cynning cymorth a chynghori i brofedigathwyr.
Mae Jane yn siarad Ffrangeg yn rhygl ac
wedi astudio yn Ffrainc. Mae hi yn cyn-ddisgybl o Ysgol
Howells, Llandaf, Caerdydd.
|
|
| |
Lorraine Watts
Ymunodd Lorraine â’r
cwmni fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant yn 2005 a chymhwysodd
fel Cyfreithiwr Cynorthwyol yn y tîm cyfraith deulu
yn 2007. Mae Lorraine yn arbenigo ym mhob agwedd o gyfraith
deulu.
Graddiodd o Brifysgol
Brookes Rhydychen gyda gradd mewn hanes a’r gyfraith ac wedyn
teithiodd o gwmpas De-Ddwyrain Asia ac Awstralia ar ei blwyddyn
allan. Mynychodd ysgol y gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith yn
Guildford, Surrey.
|
|
 |
|
| |
|
|
Elizabeth Williams
Ymunodd Elizabeth â
Phractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn 2005 fel cyfreithiwr
dan hyfforddiant a chymhwysodd yn 2007. Mae hi yn arbennigo
ym mhob ardal o gyfraith y teulu, yn cynnwys deilliau cyfreithiol
cyhoeddus.
Graddiwyd Elizabeth o
brifysgol Exeter yn 2004 ar ôl drallen y Gyfraith.
Yna mynychodd hi Prifysgol Gorllewin Lloegr i gymeryd Cwrs
Ymarfer Cyfreithiol a gorffennodd hi yn 2005 a llwyddodd
gyda chlôd yn Gyfraith y Teulu.
Mae Elizabeth yn siarad
Cymraeg yn rhygl ac mae hi yn hapus i gysylltu a chlientiaid
yn Gymraeg os yn dymunol. Yn aml, mae hi yn cael ei gwahodd
i sairad ar radio Cymraeg i drafod nifer o achosion.
Mae Elizabeth hefyd yn
aelod o Resolution.
|
|
| |
Claire Cooper
Ymunodd Claire â'r ffyrm fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym Mis Medi 2006 ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd 2:1 yn y Gyfraith. Yn fe wnaeth hi ymgymryd y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd gan llwyddo gyda dynodiant yn Gyfraith y Teulu.
Cymhwysodd Claire fel Cyfreithiwr yn 2008 ac mae hi yn arbennigo ym mhob agwedd of Gyfraith y Teulu ac yn cynnig cymorth mewn achosion 'arian mawr.' Mae hi yn aelod o Resolution.
Mae gan Claire diddordeb yn cyfraith y teulol rhyngwladol ac mae hi yn sylfaenydd o "European Lawyers Events", sydd yn cynnig rheolaith achlysuron a rhwydweithio hwylusaidd ar draws Ewrop. Mae'r grwp wedi denu diddordeb o fewn y cyfryngau, sydd yn cynnwys y BBC, y Cylchgrawn Cyfraith y Teulu â'r wasg. Mae Claire wedi rhoi darlith yn Brwsel fel rhan o achlysur ar gyfer Cyfreithwyr Ewropeaidd.
|
|
|
|
| |
 |
|
Eimear Kane
Ymunodd Eimear â’r
cwmni fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant yn Ionawr 2008 wedi
graddio o Brifysgol Queen’s, Belfast gyda gradd yn y Gyfraith
a Gwleidyddiaeth a gradd Meistr mewn Hawliau Dynol.
Wedyn dilynodd Eimear
y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Montfort, Caerlyr,
gan ennill clod mewn Cyfraith Deulu.
Mae gan Eimear ddiddordeb
brwd mewn Cerddoriaeth a Drama.
|
|
| |
Sophie Jardine
Ymunodd Sophie â Phractis
Cyfraith Deulu Wendy Hopkins fel cyfreithiwr dan hyfforddiant
ym mis Tachwedd 2008 ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe
gyda 2:1 yn y Gyfraith.
Mae hi yn brwdfrydig yn
codi arian i elusennau a pan yr oedd hi yn teithio ar draws
De Ddwyrain Asia ac Awstralia fe weithiodd hi mewn amddifaty
yn dysgu Seasneg i’r plant.
Cwblhaodd Jane ei
Chwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2008
gan ennill dynodiant yn Cyfraith y Teulu, ewyllysiau a’r henoed.
|
|
 |
|
| |
 |
|
Ciara Walker
Ymunodd Ciara â'r ffyrm
fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym mis hydref 2009 ar ol
groddio o Brifysgol y Brenhines, Belfast gyda 2:1 yn y Gyfraith.
Mae Ciara wedi ymgymryd gwaith gwirfoddol i'r Canolfan Trais
Domestig Cenedlaethol..
Mae Ciara yn ddawnsiwr
bale talentog ac oedd y brif ddawnswir a coreograffwr mewn
2 cynhyrchiad amatur ym Melfast a Chicago. Cyflawnodd Ciara
ei Chwrs Ymarfer Cyfraith yn y Coleg Gyfraith yng Nghaer
a llwyddodd gyda cymeradwyaith.
|
|
|