Dosberthir unrhyw faterion neu ddadleuon
o natur anariannol sy’n ymwneud â phlant fel achosion
cyfreithiol preifat. Lle bynnag y bydd yn bosibl, rydym
yn annog pobl i ddatrys eu dadleuon y tu allan i’r Llysoedd.
Caiff hyn ei ystyried orau i’r plant.
Gall cyfryngwyr annibynnol hyfforddedig
gynorthwyo partïon i ddatrys eu dadleuon mewn modd
anwrthdrawiadol y tu allan i’r Llysoedd.
Os na ellir datrys materion y tu allan
i’r Llys, gellir gwneud ceisiadau am nifer o Orchmynion
Llys gan gynnwys gorchymyn yn nodi gyda phwy y dylai’r plentyn
fyw; pryd dylai plentyn weld person arall; a ddylai rhywun
gael ei rwystro/rhwystro rhag cymryd camau penodol mewn
perthynas â phlentyn; ac unrhyw faterion sy’n gysylltiedig
â phenderfyniadau o bwys ym mywyd plentyn.
Os yw achosion Llys yn angenrheidiol,
cyflwynir cais yn y Llys. Fis neu ddau yn ddiweddarach,
mae apwyntiad byr yn y Llys fel arfer gyda Chyfryngwr o
fewn y Llys. Mae unrhyw gytundeb wedyn yn rhoi terfyn ar
y mater; mae diffyg cytundeb yn arwain at Adroddiad Swyddog
CAFCASS. Mae swyddogion CAFCASS yn ddeheuig mewn materion
plant ac maent yn cynrychioli llygaid a chlustiau’r Barnwr.
Maent yn cyfweld yr holl bartïon perthnasol ac yn paratoi
adroddiad yn seiliedig ar eu casgliadau fydd fel arfer yn
cymryd tri i bedwar mis. Wedi’r adroddiad, mae’r holl bartïon
yn mynychu’r Llys i’w ystyried a gweld a ellir dod i gytundeb.
Os nad oes cytundeb fe restrir y mater i’w benderfynu gan
Farnwr.
Bydd y Barnwr yn edrych ar yr holl ffeithiau
perthnasol gan gynnwys dymuniadau a theimladau’r plant.
|