Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Cytundebau Cyn-Briodas/Byw Gyda’i Gilydd

   
 

Mae llawer o bobl heddiw yn penderfynu nad ydynt eisiau priodi eu partner ac yn lle hynny yn dewis byw gyda’i gilydd. Os ydynt yn ddiweddarach yn ymwahanu, gall fod yn anodd iawn, yn emosiynol ac yn gorfforol, i rannu eu hasedau. Un ffordd o rwystro hyn i ddigwydd yw arwyddo cytundeb ysgrifenedig cyn i’r pâr gychwyn byw gyda’i gilydd, y bydd yn rhaid iddo gael ei lofnodi gan y ddau barti yng ngwydd tystion a byddai’n amlinellu fel mae’r asedau i gael eu rhannu petai pâr yn ymwahanu’n ddiweddarach.

Gallai cyplau hefyd ystyried Datganiad o Ymddiriedaeth ffurfiol, yn amlinellu’n benodol sut mae unrhyw eiddo yn berchen iddynt hwy.

Dylai cyplau dibriod hefyd baratoi Ewyllysïau sy’n amlinellu eu dymuniadau petaent yn marw.

Mae’r camau hyn yn rhai syml iawn i’w cymryd ond gallant osgoi pryder sylweddol a ffioedd cyfreithiol petai’r berthynas yn chwalu.

Dylid nodi, petai pâr sydd wedi arwyddo cytundeb cyn-briodas, yn ddiweddarach yn priodi, yna ni ellir gorfodi’r cytundebau hyn ar hyn o bryd yn Lloegr a Chymru. Gallent, fodd bynnag, gael eu hystyried mewn Llys mewn unrhyw achosion o ysgariad fydd yn dilyn.

 

 
 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni