Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Erthyglau Newyddion

 

• Ysgariadau Enwogion Amlwg (22/03/07 - Western Mail)

  • 24 awr Gan Melanie Hamer (07/04/07 - Western Mail)
  • Gweithio Hyblyg - Thea Hughes (04/05/07 – Busnes yng Nghymru)
  • Ras am Fywyd (30/05/07 - The Echo)
  • Y Cyfan Amdanaf I - Kate Edwards (03/07/07 - The Echo)
  • Clwb menywod busnes De Cymru yn mwynhau twf cyflym (20/08/07 - Western Mail)
  • Cam- drin Domestig (13/09/07 - Western Mail)
  • Cyfreithwyr 'Yn Eu Pinc' ar gyfer Ymwybyddiaeth Canser y Fron (17/10/07 - The Echo)
  • Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn Ehangu Ymhellach (24/10/07 - Western Mail)
  • Practis Cyfraith Deulu yn Tyfu ac yn Symud i Statws LLP (12/11/07 - Western Mail)
  • Cynnydd mewn ysgariadau yn sicr o fwrw'r ardal (07/01/08 - The Echo)
  • Pwer 10 (Cylchgrawn Insider Chwefror 2008)
  • "Gall trais domestig effeithio ar unrhyw un, ond mae menywod proffesiynol yn well at guddio'r ffaith" (04/03/08 - Western Mail)

  Ysgariadau Enwogion Amlwg (22/03/07 - Western Mail)
 

Mae’r Wasg yn llawn storïau â phenawdau apelgar ynghylch ysgariadau enwogion amlwg a’r cyfreithwyr y tu ôl iddynt. Ond mae llawer mwy i fod yn gyfreithiwr teulu na chwrso setliad ariannol.

Ar frig y raddfa mae’r enwogion Abramovich a McCartney a’u setliadau ysgariad aml-filiynau.
Ar begwn arall y raddfa mae miloedd o gyplau cyffredin Prydeinig sy’n dioddef poen ysgariad y tu allan i sylw’r penawdau.

A thra bod llawer o bobl yn gallu setlo’u gwahaniad yn gyfeillgar a heb ormod o ofid, mae llawer heb allu gwneud hynny.

Yr un ffactor cyffredin – os yw’r cyplau’n gyfoethog neu beidio – yw bron bob amser y cyfreithiwr ysgariad.

Mae’r gyfraith ysgariad a chyfraith deulu gysylltiedig yn denu diddordeb cynyddol ymhlith y rheiny sy’n eiddgar i gael mynediad i’r byd cyfreithiol, ac achosion enwogion yn gyfrwng hybu poblogrwydd y proffesiwn.

Mae Melanie Hamer, Partner yng nghwmni cyfraith deulu mwyaf Cymru, Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins (wendyhopkins.co.uk), Windsor Place, Caerdydd, yn credu mai’r sector hwn yw’r mwyaf heriol yn ddeallusol a’r mwyaf boddhaus yn emosiynol y gall y gyfraith ei gynnig.

“Yn anffodus, mae llawer o bobl ifanc yn cydnabod hyn ac mae’n golygu bod cytundebau hyfforddiant nawr yn brin, hyd yn oed i rywun allan o’r brifysgol gyda gradd safonol dda yn y gyfraith,” medd Melanie.

“Ugain mlynedd yn ôl roedd yn hawdd cael cytundeb hyfforddiant a gallech fwy neu lai ddewis ble roeddech eisiau gweithio. Bellach mae llawer o gwmnïau cyfreithiol nad ydynt yn cynnig cytundebau hyfforddiant ond yn cymryd cyfreithwyr ymlaen fel paragyfreithwyr.”

Caiff Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins 500 o ymgeiswyr yn cynnig am bob cytundeb hyfforddiant gwag a hysbysebir. “Tueddaf i gyfweld y rheiny sydd â graddau cyfraith da yn unig, sy’n nodi yn eu llythyr eglurhaol paham maent eisiau gwneud cyfraith deulu yn benodol,” ychwanega Melanie.

“Rwy’n dal i hoffi llythyron eglurhaol mewn llawysgrifen – gallwch ddysgu llawer o lawysgrifen rhywun ac mae’n dangos bod yr ymgeisydd wedi gwneud ymdrech deilwng yn hytrach nag anfon llythyron unffurf.”

Ac unwaith y bydd rhywun wedi cymhwyso fel cyfreithiwr mae sgiliau penodol y bydd eu hangen i fod yn gyfreithiwr teulu llwyddiannus, a’r rheiny efallai heb fod ynghlwm wrth agweddau troseddol na masnachol y gyfraith,” ychwanega.

“Ar wahân i lawer o synnwyr cyffredin, mae’n rhaid i gyfreithiwr teulu da feddu ar y gallu i ddal yn wrthrychol a pheidio ag ymgolli yn emosiwn yr achos, sydd yn aml yn fagl y mae llawer o gyfreithwyr iau yn syrthio iddo,” medd Melanie, oedd yn un o’r ddau bartner gwreiddiol ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn 1996, wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yn 1989.

“Dylent gael ffordd ofalgar a deallgar, gallu i ddal yn ddigynnwrf a meddu sgiliau trefniadol da. Mae angen iddynt fod yn gyfathrebwyr ardderchog – ar lafar ac yn ysgrifenedig – a bod y hyblyg.

“Mae’n rhaid i chi ddysgu i ddisgwyl yr annisgwyl oherwydd bod ysgariad a materion teuluol yn aml yn emosiynol iawn a gallant fynd mewn cyfeiriadau gwahanol. Gall unrhyw beth ddigwydd mewn diwrnod ac nid yw’n annisgwyl gorfod anghofio am eich holl gynlluniau eraill er mwyn canolbwyntio ar un achos,” ychwanega Melanie, sydd wedi bod yn aelod o Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith ers 1996 ac a fu’n un o’r ddau gyfreithiwr cyntaf yng Nghymru i ennill mynediad i banel arbenigol Cymdeithas Cyfreithwyr y Gyfraith Deulu.

“Rwyf hefyd yn credu mai’r cyfreithwyr teulu gorau yw’r rheiny sy’n greadigol ac sy’n mwynhau parodrwydd i geisio datrys materion mewn modd cyfeillgar ac anwrthdrawiadol lle bynnag y bydd yn bosib.

“Yn aml mae plant yn rhan o’r ddadl ac ni wna cyfreithiwr ymosodol ond gwaethygu’r sefyllfa.
Rydym yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser yn y gwaith ac mae’n bwysig gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau – mae cyfraith deulu yn bendant yn ateb y diben.”

 
 
  24 awr Gan Melanie Hamer (07/04/07 - Western Mail)
 

Mae’r larwm radio yn cychwyn y diwrnod am 6.45 y bore i lais Sarah Kennedy ar Radio Dau. Pryd brysiog gymer 5 munud gyda’r plant a Daryl, fy ngwr, yw brecwast, cyn cymryd y daith ysgol.

Fel arfer rwy’n cyrraedd y gwaith am 8.45 . Rwy’n un o gyd-sefydlwyr a Phartneriaid Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn Windsor Place. Cychwynasom y cwmni dros 10 mlynedd yn ôl fel y cwmni cyfraith deulu arbenigol cyntaf yng Nghymru.

Erbyn hyn mae gennym dîm o 26 aelod staff ymrwymedig gan gynnwys 13 cyfreithiwr. Ni sydd â’r tîm cyfraith deulu arbenigol mwyaf yn Ne Cymru ac fe’n rhestrir yn y band uchaf yn y Siambrau.

Bob diwrnod yn y gwaith rwy’n ceisio sicrhau mod i’n siarad â’r rhan fwyaf o’n tîm. Rwy’n cymryd gofal o’n staff a’n cleientiaid ac rwy’n teimlo gwir gyfrifoldeb drostynt.

Daw galwadau ffôn yn ysbeidiol ar hyd y dydd. Bore Llun sydd wastad brysuraf ar gyfer galwadau ffôn. Gallai rhai cleientiaid ysgariad fod wedi’u cythruddo a’u cynhyrfu dros y penwythnos gan eu gwr/gwraig ac yn aml byddant eisiau siarad â fi fore Llun. Mae’n rhaid ei bod yn anodd iawn i wr a gwraig ddal i fyw dan yr un to tra maent yn y broses o ysgaru.

Os wyf yn y llys yna mae gofyn i fi’n gyson fod yno erbyn 10 y bore a gallwn fod yno drwy’r dydd. Gwaith llys ac eiriolaeth i fi yw rhannau mwyaf apelgar y gwaith. Mae’n gyffrous iawn ac mae’n dal i gynhyrfu.

Gan mwyaf os nad wyf yn y llys byddwn yn gweld cleientiaid yn y swyddfa. Tuedda cleientiaid newydd i fod yn bryderus ac yn ddagreuol yn eu cyfweliad cyntaf a gwnaf fy ngorau i’w gwneud yn gartrefol. Rwy’n dal i ryfeddu pan glywaf rai o’r storïau a phan feddyliaf nad oes dim mwy all roi ysgytwad i fi, mae rhywun yn dweud rhywbeth wrthyf sydd yn creu syndod a rhyfeddod.

Cinio fel arfer yw brechdan a Starbucks wrth fy nesg. Rwy’n gwybod y dylwn fynd allan a chael egwyl amser cinio ac mewn byd delfrydol byddwn yn mynd i nofio bob dydd ond yn y byd real nid yw hyn yn digwydd.

Mae’r prynhawniau yn gwibio heibio a thueddaf i gymryd adre gyda fi unrhyw beth sydd angen ei wneud y diwrnod hwnnw na fu’n bosib delio ag ef yn ystod oriau swyddfa. Rwy’n gadael gwaith am 5.15 y prynhawn i fod gartref erbyn 6 yr hwyr.

Fel arfer caf fy nghyfarch drwy fy nghofleidio gan Kate, fy merch fach 3 oed, ac mae fy mab wyth mlwydd oed, Sam, fel arfer yn gweiddi lawr o’i ystafell wely “Hei, Mam”. Mae e yn y cyfnod pan olyga’i Playstation fwy iddo na dim arall! Treulir y ddwy awr nesaf fel amser i’r teulu.

Erbyn 7.45 yr hwyr, mae Kate fel arfer yn y gwely ac yn cysgu’n drwm a dyma pryd rwyf yn dechrau gweithio eto. Yn aml treulir yr ychydig oriau nesaf ar dasgau rheoli a gweinyddu; paratoadau ar gyfer unrhyw wrandawiadau, dal i fyny â’r post; ac e-byst.

10 tan 11 yr hwyr yn arferol yw amser ymdawelu. Rwyf fel arfer yn darllen y Western Mail neu’n edrych ar y teledu neu gael sgwrs gyda’m gwr. Weithiau rwy’n llwyddo i gael gwydryn o win ond ceisiaf sicrhau nad yw hyn yn digwydd bob dydd! Rwy’n syrthio i’m gwely fel arfer rhwng 11 ac 11.30 yr hwyr am 10 munud yng nghwmni llyfr.

 

 
  Gweithio Hyblyg gan Thea Hughes (04/05/07 - Busnes yng Nghymru)
 

Disgrifiwch y ffordd mae eich gwaith yn ‘hyblyg’
Rwy’n gweithio 4 diwrnod bob wythnos; a gall yr union ddiwrnodau amrywio o wythnos i wythnos.

Ydych chi’n gweithio gartref neu mewn swyddfa?
Y ddau, rwyf wedi fy lleoli yn y swyddfa yn ystod oriau swyddfa am y pedwar diwrnod, ond rwy’n bartner ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins ac felly mae gennyf gyfrifoldebau rheoli yn ogystal â gwaith gyda chleientiaid. Gan y gall hyn greu swm enfawr o waith, rwyf hefyd yn gweithio o gartref.

Paham y dechreuoch chi weithio hyblyg gartref?
Roeddwn eisiau cael un diwrnod rhydd yn ystod yr wythnos pan allwn fod gartref gyda fy mab cyn-oed ysgol a mynd â’m dwy ferch i’r ysgol a’u hebrwng o’r ysgol. Roeddwn eisiau bod yn rhan o fywydau bob dydd y plant, yn hytrach na bod yno yn unig yn yr hwyrnosau ac yn ystod y penwythnosau.

Oeddech chi’n ei chael hi’n anodd addasu o’ch dull blaenorol o weithio?
Y gwir bryder i fi oedd gorfod chwilio am ffordd o gwtogi fy llwyth gwaith pan euthum i bedwar diwrnod. Gyda’r amser a dreuliwn yn gweithio o gartref rwy’n dal i lwyddo i gyflawni llwyth gwaith wythnos lawn, ond mae’r system hon yn caniatáu llawer mwy o hyblygrwydd ac mae werth y cyfan.

Pa mor bwysig yw hi i sefydlu patrwm gwaith?
Rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol ond nid ar draul fy hyblygrwydd. Fel cyfreithiwr, yn unol â natur y proffesiwn, mae’n rhaid i fi reoli’m gwaith yn ofalus iawn a hefyd addasu o gwmpas gofynion fy nghleientiaid. Ni allaf ddweud ’mae’n ddrwg gyda fi, ond dyna fy niwrnod bant’ os oes f’angen yn y llys.

Sut mae’ch cydbwysedd gwaith/bywyd? A yw wedi elwa?
Rwy’n teimlo bod y cydbwysedd yn weddol dda ar y foment. Mae’n bendant yn llawer gwell na phan oeddwn yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener. Arferwn deimlo fy mod yn gadael fy mhlant i lawr gan nad oeddwn mewn gwirionedd yn gweld llawer ohonynt yn ystod yr wythnos. Nawr rydym yn cael diwrnod hyfryd gyda’n gilydd yn ystod yr wythnos pan gaf fi gwrdd â’u ffrindiau a’u hathrawon yn yr ysgol.

Ydych chi’n meddwl eich bod yn fwy cynhyrchiol na phetaech yn gweithio yn y swyddfa yn rheolaidd o 9-to-5?
Ydwyf, yn ddiamau. Sut allwch chi beidio â chyflawni mwy pan ydych yn hapusach yn eich gwaith, a bywyd yn hapusach yn gyffredinol?

Fyddech chi fyth yn dychwelyd i weithio 9-i-5 yn rheolaidd?
Efallai pan fydd fy mhlant wedi gadael ysgol, ond y cam cyntaf i fi, rwy’n credo, fydd pan fydd fy mhlant i gyd yn yr ysgol lawn amser, yna rwy’n gobeithio gweithio 5 niwrnod yr wythnos eto ond diwrnodau byrrach fel y gallaf weithio yn ystod oriau ysgol. O wneud hyn byddaf yn gallu eu casglu o’r ysgol a bod yn rhan o’u gweithgareddau ar-ôl-ysgol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sy’n ystyried ymgymryd â gweithio hyblyg/gartref?
Mynd amdani, ond i fod yn ofalus wrth gadw’u gwaith ar wahân i’w bywyd gartref. Os oes angen gweithio o gartref, mae’n wir yn help i neilltuo swyddfa fach yn y cartref i gael yr awyrgylch priodol fel, pan fyddwch yn mynd i mewn iddi, fe allwch yn haws ac yn gynt fagu’r hwyl i weithio.

 
 
  Ras am Fywyd (30/05/07 - The Echo)
 

Mae tîm o ‘gyfreithwragedd mewn lycra’ yn paratoi ar gyfer y Ras am Fywyd sy’n dod cyn bo hir i Gaerdydd gyda thri aelod o’u tîm wedi colli rhieni i glefyd y canser.

Rhoddwyd y tîm cryf o 14 o fenywod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad ym Mharc Bute ar gaeau Blackweir gan gyfreithwyr ac ysgrifenyddesau ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins a leolir yng Nghaerdydd.

Dywedodd trefnydd y tîm a’r cyfreithiwr Anna Weaver mai hon oedd yr ail flynedd yn olynol i’r menywod ddod at ei gilydd i helpu i godi arian i Ymchwil Canser y DU.

Dywed Thea Hughes, Partner "Canfuwyd bod canser ar fy mam yn 2000 a, diolch i’r drefn, cafodd ollyngdod ers hynny. Rydym i gyd yn falch o gael cefnogi’r elusen hon, gan fod canser, yn anffodus, yn cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl.”

Eglura Melanie Hamer, Partner “Bu farw fy mam yn 2002 yn 65 oed wedi canfod ei bod yn dioddef o ganser yng Ngorffennaf 2000. Fe wnes i’r Ras am Fywyd yn haf 2001 pan feddyliem ni ei bod wedi cael gollyngdod a rhoddais iddi’r fedal a dderbyniais am orffen y ras. Fe fu dilyniant eto gydag ymdrech wych ar ran y tîm y llynedd.

“Syniad Anna oedd e a hi sydd wedi’n trefnu ni gyd. Mae’n wych fod cymaint o fenywod yn cymryd rhan. Mae wastad yn deimladwy i weld yr arwyddion ar gefnau pobl a gweld faint o bobl a gafodd eu heffeithio yn eu teulu gan y clefyd hwn,” ychwanegodd Melanie.

Mae tîm Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn cynnwys Melanie Hamer, a’i chydweithwyr Anna Weaver, Thea Hughes, Kate Edwards, Amanda Waktins, Debra Pearce, Rachel Edwards, Claire Cooper, Aumeneh Boardman, Angela Jones, Liz Williams, Lorraine Watts, Danielle McCarthy a Nia Roberts.

Hon fydd y 12fed flwyddyn yn olynol y mae Caerdydd wedi croesawu’r Ras am Fywyd ac ers i’r digwyddiad gael ei gychwyn yn 1994.

Sefydlwyd Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins, Caerdydd, gyda dim ond tri chyfreithiwr yn 1996 fel yr unig gwmni’n ymwneud yn gyfangwbl â chyfraith deulu yng Nghymru. Mae bellach yn un o'r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n ymwneud â materion cyfraith deulu.

Mae’r cwmni’n cwmpasu holl agweddau cyfraith deulu gan gynnwys ysgariad ac ymwahanu, materion plant, busnes ariannol a gwasanaethau i’r henoed.

 

 
  Popeth Amdanaf I - Kate Edwards (03/07/07 - The Echo)
 

Beth yw’ch atgof cynharaf o’ch plentyndod?
Pan oeddwn yn fychan roeddem yn byw mewn hen dy ac roedd gennyf le tân yn f’ystafell wely. Rwy’n cofio deffro un bore Nadolig a gweld Siôn Corn yn gadael i fyny’r simnai. Roeddwn i wedi’m cynhyrfu! Yn anffodus rwyf wedi darganfod erbyn hyn mai hen welis fy nhad oeddent roddodd fy rhieni yno i’m twyllo.

A bwy wnaethoch chi wirioni gyntaf?
Rhaid mai Jon Bon Jovi (mae’n parhau felly!).

Beth yw’ch eiddo rydych chi’n ei werthfawrogi/ei drysori fwyaf?
Fy 2 gath Delilah a Pip, maent wastad yn dod i’m cyfarfod bob dydd pan ddof i adre o’r gwaith.

Beth oedd y celwydd gwyn diwethaf ddywedsoch chi?
Wrth gwrs cariad, hoffwn i weld y ffilm Transformers newydd….

Beth ydych chi’n gwneud yn eich amser rhydd?
Pan rwy’n cael cyfle i ymlacio mae fy nghariad a finnau’n ceisio ffoi i’n rhandir a mwynau’r heddwch. Rwy’n hoff o ddarllen llyfrau teithio’n ogystal ac rwy’n gweld siopa am esgidiau’n therapiwtig iawn yn arbennig ar ôl diwrnod caled yn y gwaith.

Beth yw’ch hoff lun?
Rwy’n caru lluniau o deulu a ffrindiau ac maent oll ar hyd fy nesg. Yr un rwyf wedi dewis yma yw llun ohonof i’n abseilio oddi ar Bont Cludiant Casnewydd gan ei fod yn f’atgoffa y gallaf wneud un rhywbeth a geisiaf.

Oes gennych neu a oedd gennych lysenw?
Dim mewn gwirionedd, roeddwn i wastad yn Kate neu Katie

Beth rydych chi wastad yn rhoi yn eich basged siopa?
Bagelau sinamon a rhesins

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Nid wyf wedi crio ers amser ond mwy na thebyg pan oeddwn i’n gwylio neu ddarllen rhywbeth sentimental.

Ble oedd eich gwyliau gorau erioed?
Rwyf newydd ddychwelyd o Ciwba, ac roedd yn anhygoel, ond rhaid mai’r gwyliau gorau oedd yng Nghaliffornia ble treuliais flwyddyn fel myfyriwr. Nid hawdd oedd dod yn ôl i Gymru ar ôl yr holl haul yna!

 

 
  Clwb menywod busnes De Cymru yn mwynhau twf cyflym
(20/08/07 - Western Mail)
 

Mae clwb menywod busnes newydd yn Ne Cymru yn dathlu twf cyflym wedi’i sefydlu ychydig fisoedd yn ôl.

O’i gychwyn Rhagfyr diwethaf, mae’r clwb yn denu dros 60 o aelodau i’w gyfarfodydd misol ac mae’r niferoedd yn mynd i chwyddo ymhellach wrth i’w fomentwm dyfu.

Fe ymunodd Melanie Hamer, Partner ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins, â Alison Hazledine, arbenigwr treth, a Rebecca Garrett, banciwr, fel cyd-drefnwyr yn y diwrnodau cynnar pan ddarllenodd am uchelgais Rebecca yng nghylchgrawn busnes y Western Mail yn gynt yn y flwyddyn.

Meddai Rebecca, “Symudais i Ganolfan Masnachol HSBC yng Nghaerdydd gychwyn Hydref y flwyddyn ddiwethaf o Ddyfnaint ac roeddwn eisiau gwneud rhai cysylltiadau yn yr ardal.

“Roeddwn wedi bod yn rhan o glwb cinio rhwydweithio menywod yng Nghaerwysg felly fe benderfynais gychwyn un fy hun yma yng Nghaerdydd.

“Fe’m cyflwynwyd i Alison Hazledine o Gyfrifwyr Siartredig Kilsby & Williams oedd wedi bod yn trefnu byrddau i fenywod mewn amrywiol ddigwyddiadau felly fy ymunodd y ddwy ohonom i drefnu Cyfarfod Cinio cyntaf De Cymru yn Rhagfyr 2006.

“Cychwynasom gyda 26 o wragedd yn mynychu’n cinio cyntaf ac mae wedi cynyddu o fis i fis gyda 50 o wragedd yn mynychu’r cinio ym Mai a drefnwyd gan Melanie Hamer.”

Meddai Alison, “Mae’r ciniawau yn anffurfiol ac yn gyfle i ymlacio ac meant yn cynnig cyfle i wragedd proffesiynol adeiladu rhwydwaith o wragedd cyffelyb iddynt. Mae’r diddordeb yn parhau i dyfu, ac rydym yn falch i weld wynebau newydd,”

Ychwanegodd Melanie, “Oddeutu 15 mlynedd yn ôl tra oeddwn yn gweithio i Eversheds roeddwn ar bwyllgor ar gyfer grwp busnes i fenywod yn Ne Cymru o’r enw Menywod mewn Menter.

“Roedd yn glwb poblogaidd ac fe wnaeth pawb a gymerodd ran gysylltiadau busnes da ac yn y broses gyfarfod pobl hyfryd a chael hwyl.

“Ond mae clybiau’n rhedeg eu cwrs ac fe stopiodd Menywod mewn Menter weithredu beth amser yn ôl ac roedd yn sicr gyfle i greu un amgen,” meddai Melanie.

 
 
  Cam-drin domestig (13/09/07 - Western Mail)
 

Fe fydd cam-drin domestig yn effeithio ar un fenyw mewn pedair yn ystod eu bywyd. Fe fydd Kate Edwards, cyfreithiwr arbenigol gyda Phractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn mynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol gynyddol hon yng nghynhadledd Cymorth i Fenywod Cymru a fydd yn cyfarfod yn Wrecsam yfory.

Fe fydd cam-drin domestig yn effeithio ar un fenyw mewn pedair yng Nghymru yn ystod eu bywyd ac un mewn chwech o ddynion.

Mae dwy fenyw yn marw bob wythnos a thrideg o ddynion yn marw bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i gamdriniaeth yn y cartref.

Mewn unrhyw gyd-destun, mae’r rhain yn ystadegau brawychus.

c nid yw cam-drin domestig yn parchu hil neu oed, safiad cymdeithasol neu ryw, ac nid oes arwyddion fod y broblem yn lleihau.

Yn wir gyda mwy a mwy o deuluoedd yn ymdrechu gyda phwysau ariannol, mae popeth yn awgrymu y bydd digwyddiadau o gamdriniaeth yn y cartref yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r cynnydd yn y nifer o unedau cam-drin domestig ac unedau diogelwch i fenywod yn dystiolaeth o ddyfnder y broblem.

Mae’r unedau hyn yn darparu gwasanaeth gwerthfawr yn unol â gwaith Cymorth i Fenywod a llochesi amrywiol.

Gall cyfreithwyr chwarae rhan werthfawr i gwblhau’r cylch i frwydro trais yn y cartref; neges y byddaf i a’m cydweithwraig Nia Roberts o Bractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn annerch arni yn y gynhadledd y penwythnos yma.

Cychwynnais weithio gyda menywod oedd yn profi cam-drin domestig a grwpiau Cymorth i Fenywod tra oeddwn yn hyfforddi i fod yn gyfreithiwr.

Gwnaeth i mi sylweddoli bod y broblem yn fwy eang nag oeddwn wedi ystyried yn gynt ac, fel rwyf wedi nodi, yn effeithio ar bob math o fenyw.

Wrth i mi ddod yn fwy ymwybodol o’r broblem daeth y ffurfiau gwahanol o gamdriniaeth yn y cartref yn fwy amlwg - nid yn unig y trais corfforol ond meddyliol, emosiynol ac ariannol.

Wedi i berthynas orffen fe all y tramgwyddwr barhau i annog ei ddylanwad drwy ddefnyddio plant

y berthynas. Fel rhan o’m gwaith fel cyfreithiwr, rwy’n aml yn ymweld â dioddefwyr sy’n methu neu’n amharod i fynd i swyddfa cyfreithiwr oherwydd yr hyn a ddigwydd os cânt eu gweld yno.

Mae hwn yn fater sylweddol ac un y mae’n rhaid i’r proffesiwn fynd i’r afael ag ef ar frys, ac rwy’n creu bod gan gyfreithwyr ddyletswydd i addysgu’r cyhoedd o’r broblem anweledig hon.

Mae’r deddfau yn y wlad hon yn newid wrth i ymwybyddiaeth dyfu. Mae Deddf Trais Yn y Cartref, Trosedd a Dioddefwyr 2004 yn adlewyrchu hyn ac mae newidiadau pwysig wedi’u gwneud – ond rhaid aros i weld a yw’r newidiadau hyn wedi mynd yn ddigon pell.

Un o’r deddfau pwysicaf yw Deddf Cyfraith Deulu 1996, deddf gynhwysfawr sy’n galluogi person i geisio am Orchymyn Anfolestiad a/neu Orchymyn Meddiant.

Gellir gwneud gorchymyn anfolestiad i wahardd person rhag defnyddio neu fygwth i ddefnyddio

trais corfforol neu i wahardd person rhag aflonyddu, plagio neu fygwth rhywun. Mae’n rhaid bod tystiolaeth o folestiad, mae’n rhaid bod angen i’r ymgeisydd (neu’r plentyn) gael ei amddiffyn; ac mae’n rhaid i’r Barnwr fod yn fodlon fod angen ymyrraeth farnwrol i reoli’r ymddygiad difenwol.

Defnyddir Gorchymyn Meddiant lle bo deiliadaeth yr annedd i’r dyfodol dan gwestiwn. Gellid gofyn i un person adael y cartref oherwydd ei ymddygiad/hymddygiad tuag at y llall neu effaith ei bresenoldeb/phresenoldeb ar y plant.

Mae gorchmynion meddiant yn eithaf beichus a chan amlaf gofynnir amdanynt pan wneir cais am Orchymyn Anfolestiad a phan nad oes opsiwn arall. Mae Gorchymyn Meddiant i bob pwrpas yn taflu allan y partner treisgar o’r cartref teuluol ac yn ei wahardd/gwahardd rhag dychwelyd.

Rhan arall o’r gyfraith y mae’n rhaid ei deall yw Deddf Plant 1989, sy’n rhoi lles y plentyn yn gyntaf. Rhydd y rhan hon fudd y plentyn yn uwch nag anghenion rhiant sy’n cael ei gam-drin/cham-drin gan mai’r farn gyffredin yw ei bod o fudd i’r plentyn gael perthynas gyda’i ddau riant.

Os yw mam plentyn wedi bod yn dioddef cam-drin domestig sydd wedi arwain at derfynu’r berthynas gyda thad y plentyn, gellir rheoli’r cyswllt rhwng y tad a’r plentyn fel nad oes rhaid i’r rhieni gwrdd. Gellir hwyluso’r cysylltiad gan drydydd parti cytûn, neu mewn rhai achosion gall y cyswllt ddigwydd mewn canolfan gyswllt.

Os cred y rhiant sy’n byw gyda’r plentyn nad yw o fudd i’r plentyn i weld ei riant arall, mae hawl ganddynt dorri’r cysylltiad.

Bydd yn rhaid i’r rhiant nad yw’n byw gyda’r plentyn wneud cais i’r Llys lle ymchwilir i’r mater yn drylwyr.

Dim ond crynodeb swta yw hwn o’r gyfraith sy’n ymwneud â cham-drin domestig.

Rwyf o’r farn fod dyletswydd ar y proffesiwn cyfreithiol i ddefnyddio gymaint â phosib o’i arbenigedd sylweddol i gynorthwyo i leihau problem trais yn y cartref yn y Deyrnas Unedig.

Wedi’r cyfan, mae gan bawb ohonom y cymwysterau i gynghori staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr am y datrysiadau sifil sydd ar gael iddynt hwy a’u plant i'w cynorthwyo i dorri’r cylch trais a’u diogelu i’r dyfodol.

I gloi, byddaf yn ogystal yn siarad mewn digwyddiad rhwydweithio i fenywod a drefnir gan Anna Maria Sakellariou o’r Grwp Menywod Hyn a Rhwydweithio (SWAN). Bydd cynrychiolwyr o Gymorth i Fenywod Caerdydd, BAWSU (Menywod Du ac Affricanaidd yn Camu Allan) ac Uned Diogelwch i Fenywod Caerdydd yn siarad yn ogystal yn y digwyddiad a gynhelir yng Ngwesty’r Copthorne, Caerdydd ar Fedi’r 20fed.

* Mae Kate Edwards yn Gyfreithiwr i Bractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins LLP, Caerdydd, (029) 2034 2233 wwww@wendyhopkins.co.uk Mae Kate yn ogystal yn Ymddiriedolwr i Gymorth i Ferched Pontypridd.

 

 
  Cyfreithwyr 'Yn Eu Pinc' ar gyfer Ymwybyddiaeth Canser y Fron (17/10/07 - The Echo)
 

Bydd tîm o gyfreithwyr o Gaerdydd ‘yn eu pinc’ yr wythnos hon i roi eu cefnogaeth i Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron a’r elusen Tenovus.

Yn ogystal â gwisgo yn eu pinc am y diwrnod, bydd cyfreithwyr a staff ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn Windsor Place yn codi arian drwy werthu bwyd a diod binc a rafflo cyfres o wobrau pinc.

Mae cysylltiad trist rhwng yr elusen a’r tîm oherwydd bod tri chyfreithiwr o blith y 14 yn y cwmni wedi colli rhieni i ganser, gan gynnwys y partner, Melanie Hamer.

Mae’r gan y cyfreithwyr ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins - 11 menyw a 3 dyn -– orffennol o gefnogi elusennau canser, wedi dod at ei gilydd eleni eto i godi arian i Ymchwil Canser y DU drwy gystadlu yn y Ras am Fywyd yng Nghaerdydd.

Dywed Thea Hughes, Partner " Canfuwyd bod canser y fron ar fy mam yn 2000 a, diolch i’r drefn, cafodd ollyngdod ers hynny. Rydym i gyd yn falch o gael cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, gan fod canser yn cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl.”

Ychwanegodd Melanie Hamer,” Fe’n hysbrydolwyd i gael “Diwrnod Pinc” wedi gwrando ar lefarydd o Tenovus y siarad yng Nghlwb Cinio Menywod Busnes De Cymru. Mae’n wych bod ein staff wedi cefnogi’r syniad o ddiwrnod ‘Yn y Pinc’ ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cefnogaeth haeddiannol gan bawb sy’n ymweld â’n swyddfa.”

Sefydlwyd Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins, Caerdydd, gyda dim ond tri chyfreithiwr yn 1996 fel y cwmni cyfraith cyntaf yng Nghymru sy’n ymwneud yn gyfangwbl â chyfraith deulu. Mae bellach yn un o’r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n ymwneud â materion cyfraith deulu.

Mae’r cwmni’n cwmpasu pob agwedd o gyfraith deulu gan gynnwys ysgariad ac ymwahanu, materion plant, materion ariannol a gwasanaethau i’r henoed.

 

 
  Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn ehangu Ymhellach
(24/10/07 - Western Mail)
 

Mae cwmni cyfreithwyr teulu mwyaf Cymru – Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins -wedi cyhoeddi ei fod yn ehangu ymhellach, gan gynyddu ei dîm o gyfreithwyr i 14.

Y cwmni a leolir yn Ne Cymru hefyd yw un o gwmnïau cyfraith deulu amlycaf y DU ac yn dilyn twf diweddar mae wedi cyflogi tri chyfreithiwr cynorthwyol a chyfreithiwr newydd dan hyfforddiant yn ei swyddfeydd yn 13 Windsor Place, Caerdydd.

Sefydlwyd y cwmni gyda dim ond tri chyfreithiwr yn 1996 fel y cwmni cyfraith cyntaf yng Nghymru sy’n ymwneud yn gyfangwbl â chyfraith deulu. Mae yn y cwmni bellach 11 o gyfreithwyr benywaidd a thri chyfreithiwr gwrywaidd, gan ei alluogi i roi persbectif o safbwynt y dyn a’r fenyw i’w gleientiaid sy’n wynebu ysgariad.

Mae’r cwmni’n cwmpasu pob agwedd o gyfraith deulu gan gynnwys ysgariad ac ymwahanu, materion plant, materion ariannol a gwasanaethau i’r henoed.

Ei gyfreithwyr cynorthwyol newydd yw Elizabeth Williams, o Gaerdydd, a Lorraine Watts, o Harrow, Swydd Middlesex, y ddwy wedi cymhwyso y mis diwethaf.

Cwblhaodd Elizabeth, cyn-ddisgybl o Ysgol Glantaf, ei gradd Gyfraith LLB ym Mhrifysgol Caerwysg, tra graddiodd Lorraine o Goleg y Gyfraith, Guildford gyda chlod, sef teilyngdod uchaf y cwrs.

Mae’r practis yn ogystal wedi recriwtio cyfreithiwr cynorthwyol Jane Baker, a gymhwysodd yn John Collins a’i Bartneriaid, Abertawe ac mae’n arbenigo mewn ewyllysïau a phrofed, gan gynorthwyo pennaeth yr adran, Dianne Evans.

Mae’r cyfreithiwr dan hyfforddiant newydd, Adam Frewen, sy’n wreiddiol o Bencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn raddedig o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Dywedodd y Partner Melanie Hamer fod y cwmni yn ymfalchïo iddo sicrhau gwasanaethau’r doniau cyfreithiol gorau.

 

 
  Practis Cyfraith Deulu sy'n Ehangu yn Symud i Statws LLP (12/11/07 - Western Mail)
 

Mae Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins wedi symud i statws partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP) – sy’n arwyddo twf sylweddol ar gyfer 2008.

Mae’r practis sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd wedi tyfu bron 500% ers ei sefydlu gyda dim ond tri chyfreithiwr yn 1996 fel y cwmni cyfraith cyntaf yng Nghymru sy’n ymwneud yn gyfangwbl â chyfraith deulu.

Mae yn y cwmni bellach 11 o gyfreithwyr benywaidd a thri chyfreithiwr gwrywaidd, gan ei alluogi i roi persbectif o safbwynt y dyn a’r fenyw i’w gleientiaid sy’n wynebu ysgariad- ffigur sy’n dal i dyfu.

Dywedodd Thea Hughes, Cyd-Bartner Rheoli, fod y newid i LLP yn gam naturiol yn natblygiad y cwmni fyddai’n fuddiol iddo fel busnes.

“Bydd y newid yn cynnal gallu’r cwmni i ddenu a chadw’r staff gorau, yn help i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac ymatebol i gleientiaid ar draws De Cymru a thu hwnt ac yn gwella tryloywder,“ meddai.

“Rydym ni, ynghyd â’n staff a’n cleientiaid, yn cydnabod ac yn cefnogi’r angen i redeg ein busnes mewn modd cyfrifol, tryloyw. Yn yr un modd, bydd strwythur atebolrwydd cyfyngedig yn ein cynorthwyo ni i barhau i ddenu a chadw’r bobl orau.”

Croesiad yw LLP rhwng partneriaeth draddodiadol – y strwythur cyfreithiol a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Bractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins – a chwmni cyfyngedig.

Yn wahanol i bartneriaethau traddodiadol, mae gan LLP y fantais o gyfyngu atebolrwydd personol aelodau, tra caniateir iddo’r hyblygrwydd i gadw strwythurau mewnol sydd eisoes yn bodoli.

Yn ddiweddar penododd y cwmni dri chyfreithiwr cynorthwyol, Elizabeth Williams, o Gaerdydd, a Lorraine Watts, o Harrow, Swydd Middlesex, y ddwy wedi cymhwyso ym Medi eleni wedi hyfforddi gyda’r cwmni a Jane Baker o Gaerdydd.

Yn ogystal penododd y cwmni gyfreithiwr newydd dan hyfforddiant, Adam Frewen, sy’n wreiddiol o Bencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn raddedig o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Dywedodd y Partner Melanie Hamer, “Fel mae’r cwmni’n parhau i fwynhau twf cadarn, mae’n bwysicach nag erioed i ni sicrhau gwasanaethau’r doniau cyfreithiol ifanc gorau.”

 

 
  Cynnydd mewn ysgariadau yn sicr o fwrw'r ardal (07/01/08 - The Echo)
 

Mae cynnydd mewn ysgariadau yn sicr o fwrw De Cymru y mis hwn.

Mae Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins a leolir yng Nghaerdydd yn honni mai Ionawr yw’r mis prysuraf ar gyfer trafod achosion o ysgaru ac ymwahanu.

Ar gyfartaledd, maent yn dweud bod y nifer o gleientiaid sy’n ceisio ysgariad yn Ionawr yn cynyddu 51 y cant ar y mis blaenorol.

Ac weithiau fe elwir heddiw yn ‘D-Day’ – y diwrnod pan fydd cyplau cecrus yn fwyaf tebygol o gychwyn gweithrediadau ysgariad.

Meddai Melanie Hamer, Partner Rheoli’r cwmni: “Bydd yr awyrgylch sosban bwysedd mewn cartrefi adeg y Nadolig yn gwaethygu’r problemau mewn perthynas. Bydd cyplau, fodd bynnag, er lles eu plant, fel arfer yn ymddwyn mor normal â phosib dros y Nadolig, cyn ceisio am ysgariad. Ein cyngor yw peidio â rhuthro i mewn i ysgariad. Os ydych yn mynd i ysgaru, yna mae angen i chi gadw’r sefyllfa mor gyfeillgar â phosibl”.

 

 
  Pwer 10 (Cylchgrawn Insider Chwefror 2008)
 

Pwer 10
Personoliaethau Amlwg ym Maes Busnesau Cymru yn datgelu’u barn ar bwnc llosg y dydd.

Cwestiwn: A ddylai Siambrau Masnach De Cymru gael eu huno i mewn i un Siambr ‘tan gamp’?

Melanie Hamer, Partner, Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins – Dylai

“Os yw creu siambr tan gamp newydd yn sicrhau goroesiad y mudiad Siambr i aelodau Caerdydd, yna byddwn yn cefnogi’r symudiad. Byddai’n gwneud synnwyr hefyd am fod y rhan fwyaf o gwmnïau bellach yn gweithio fwyfwy drwy Dde Cymru gyfan ac nid yn unig yn eu dinas neu yn eu tref eu hun.”

 

 
  "Gall trais domestig effeithio ar unrhyw un, ond mae menywod proffesiynol yn well at guddio'r ffaith" (04/03/08 - Western Mail)
 

Mae Kate Edwards, 29, yn gyfreithiwr gyda Phractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins ac mae’n arbenigo mewn helpu dioddefwyr trais domestig. Mae’n byw gyda’i phartner Rhys yng Nghaerdydd, a hi hefyd yw Cadeirydd elusen Cymorth i Fenywod Pontypridd

“Cymhwysais fel cyfreithiwr yn Ebrill 2006 ar ôl astudio’r gyfraith ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd. Treuliwyd fy nghontract hyfforddi gyda Chyfreithwyr yn gwneud gwaith gwaharddol - helpu menywod i gymryd allan waharddiadau llys yn erbyn gwyr treisgar a sarhaus”

“O’r cefndir hwn yr ymunais â mudiad Cymorth i Fenywod y Fro, a bellach rwy’n arbenigo yn y maes hwn ym Mhractis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins, a fi yw Cadeirydd Cymorth i Fenywod Pontypridd”.

“Mae’n swyddogaeth hynod ddirboenus, ac ar adegau’n clwyfo’n emosiynol. Rwyf yn aml yn cael menywod ar y ffôn neu yn fy swyddfa mewn dagrau, yn dweud wrthyf fod eu gwyr neu’u partneriaid wedi torri i mewn i’r ty ac wedi’u cam-drin yn gorfforol neu’n eiriol. Fy ngwaith i yw cadw ’mhen yn glir, a rhoi iddynt y cymorth a’r cyngor cyfreithiol gorau posib i wneud yn siwr eu bod yn cadw’n ddiogel, ynghyd â gwneud yn sicr eu bod yn gwybod am bob cymorth arall sydd ar gael oddi wrth elusennau a sefydliadau eraill”.

“Rwy’n aml yn dychwelyd adref at fy mhartner Rhys ar ddiwedd y diwrnod, yn hawlio gin a thonic, a’i dweud hi’n arw am rai o’r pethau ofnadwy ddywedodd fy nghleientiaid wrthyf y diwrnod hwnnw - mae e wedi dweud wrthyf ei fod ar ddiwedd fy mhregeth yn teimlo’n euog ei fod e’n ddyn! Rwy’n ceisio peidio â mynd â’m gwaith adref gyda fi, ond mewn gwaith mor emosiynol … weithiau mae angen cymorth emosiynol arnaf i hefyd.”

“Arwynebol yw dweud nad yw trais domestig yn digwydd ond i fenywod gwan, heb addysg, ac nad yw’n digwydd i fenywod llwyddiannus, proffesiynol. Gallaf ddweud yn bendant wrthych nad yw hynny’n wir. Gall unrhyw un ddod yn ddioddefydd trais domestig, ac yn fy mhrofiad i, y menywod proffesiynol sydd ar eu colled fwyaf yn y sefyllfaoedd hyn, gan eu bod hwy yn llai tebygol o ddweud wrth rywun, gan deimlo y dylent fod yn gallu rheoli’r sefyllfa eu hunain.”

“Dengys ystadegau y bydd dioddefwyr trais domestig ar gyfartaledd yn cael eu curo 30 o weithiau cyn iddynt ddweud amdano wrth unrhyw un. Bydd yn aml yn cymryd llawer hwy os yw’r fenyw mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, oherwydd yn aml mae’n ei chael hi’n fwy anodd cyfaddef iddo ddigwydd.”

“Rwy’n gwirioneddol gredu fod gan gyflogwyr gyfrifoldeb i’r bobl sy’n gweithio iddynt ac y dylent fynd i’r afael â phroblem trais domestig, er ei fod, yn amlwg, yn fater anodd a sensitif. Mae’r arwyddion y gallai rhywun fod yn dioddef trais domestig yn cynnwys lefelau uchel o absenoldeb, gormod o ddillad neu ddillad amhriodol, obsesiynau gydag amser ac anfodlonrwydd i gymdeithasu y tu allan i’r oriau gwaith.”

 

 

 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni