Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Ysgariad

   
 

Ysgariad

Yr un sail i ysgariad yw bod y briodas wedi chwalu y tu hwnt i adfer. I brofi hyn mae’n rhaid bod pum ffaith bosib gan gynnwys ymddygiad afresymol, godineb a chyfnod o ddwy flynedd o leiaf o ymwahanu.

Cofnodir deiseb ysgar gyda’r Llys gan ddeisebydd ac fe’i gosodir ar y gwr priod/wraig briod arall sydd wedyn yn cael cyfle i ymateb. Os na ddadleuir yn erbyn y ddeiseb, mae’r deisebydd wedyn yn cynnig am Archddyfarniad Amodol (cam hanner ffordd) i’w gyhoeddi gan y Llys. Bydd y Llys yn caniatáu’r Archddyfarniad Amodol os yw’n fodlon fod y deisebydd wedi profi’i achos/hachos. Chwe wythnos ac un diwrnod wedi cyhoeddi’r Archddyfarniad Amodol, gall y deisebydd wneud cais am Archddyfarniad Diamod, sef yr Archddyfarniad terfynol. Os nad yw’r deisebydd yn dymuno gwneud cais yn y cyfnod hwnnw, y dyddiad cyntaf y gall y gwr priod/wraig briod arall gynnig yw tri mis yn ddiweddarach.

Ymwahaniad Cyfreithiol

Mae hyn yn golygu achos llys sydd mewn gwirionedd yn debyg i ysgariad ond ar ddiwedd yr achos mae’r Llys yn cyhoeddi Archddyfarniad o Ymwahaniad Cyfreithiol ac felly mae’r gwr a’r wraig yn dal yn briod.

Cytundeb Ymwahaniad

Er mwyn datrys materion ariannol yn dilyn gwahaniad, mae’n bosibl ymrwymo i gytundeb. Yn gyffredin, mae cytundebau o’r fath yn delio gyda chynhaliaeth ac eiddo. Mae’n bwysig cofio, mewn unrhyw achos dilynol o ysgariad, na fydd y llys yn rhwym wrth y trefniadau ariannol a gynhwysir mewn cytundeb o’r fath.

 

 
 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni