Pan fydd gwr neu wraig briod yn ymwahanu,
mae angen datrys eu sefyllfa ariannol. Mae gennym yr arbenigedd
i gynghori a chynorthwyo cleientiaid i gwblhau materion
o’r fath. Rydym yn cynghori gwyr a gwragedd priod i drafod
materion yn uniongyrchol, neu drwy gyfryngiad, gyda chyngor
oddi wrthym ni cyn dod i unrhyw gytundeb.
Os na ellir dod i gytundeb, gellir gwneud
cais drwy’r Llys. Mae’r Llys yn gosod amserlen sy’n mynnu
bod pob gwr priod neu wraig briod yn llenwi datganiadau
ariannol manwl gyda dogfennaeth gefnogol. Rydym wedyn yn
cysylltu â chi i baratoi datganiad o faterion, holiadur
a chronoleg. Wedyn ceir apwyntiad cyntaf yn y Llys lle bydd
Barnwr yn amlinellu agenda ar gyfer eich achos a fydd fel
arfer yn cynnwys dyddiad ar gyfer apwyntiad ar gyfer apwyntiad
Penderfyniad Dadl Ariannol (FDR). Pwrpas y FDR yw gweld
a yw’n bosibl dod i setliad ariannol cyffredinol. Yn aml,
cyflawnir hyn a bydd y Barnwr wedyn yn gwneud Gorchymyn.
Os nad yw’n bosibl dod i setliad yn y cyfnod hwnnw, bydd
y Barnwr yn gosod dyddiad ar gyfer gwrandawiad terfynol.
Gall graddfa amser gyffredinol yr achosion
hyn gymryd rhwng naw i ddeuddeg mis. Mae’r mwyafrif helaeth
o achosion yn setlo drwy gytundeb heb yr angen am wrandawiad
terfynol.
|