Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Gwasanaethau i’r Henoed

   
 

Gall heneiddio fod yn brofiad pryderus i’r oedrannus, eu teuluoedd a’r bobl sy’n edrych ar eu holau. Mae llawer o bobl oedrannus yn poeni ynghylch pwy fydd yn rheoli eu busnes, yn eu cynghori ar y modd i drafod eu sefyllfa, a sut i gael llety arbennig neu gymorth yn y cartref. Fel mae nifer y bobl oedrannus yn dal i gynyddu, mae’r pryderon hyn yn gyffredin ac ar gynnydd.

Mae llawer o bobl oedrannus, eu perthnasau a’r proffesiynau gofal yn croesawu cyngor cyfreithiol ar y ffordd orau i ymdopi. Rydym, felly, wedi dyfeisio rhaglenni wedi’u teilwra’n unigol ac yn arbennig, sy’n cynnwys cyngor ar ewyllysïau, pwerau atwrnai, trethi ac ystod eang o faterion cyfreithiol sy’n effeithio ar yr oedrannus.

Asesir anghenion ac amgylchiadau pob cleient ac rydym yn gweithio’n glos gyda phobl broffesiynol eraill. Mae’n gwasanaeth yn atodol i’w gwaith ac mae’n gymorth i berson oedrannus wneud y mwyaf o’i amgylchiadau/hamgylchiadau, gydag amddiffyniad i ddiogelu’u buddiannau.

 


 
 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni