Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Trais Domestig – Gwaharddebau

   
 

Gall cam-drin domestig gymryd sawl ffurf ac nid yw’n gwahaniaethu rhwng dosbarth, hil, oedran, anabledd, gogwydd rhywiol neu addysg. Gall hefyd gymryd sawl ffurf gan gynnwys ffurf gorfforol, eiriol, emosiynol a rheolaeth ariannol.

Mae trais domestig yn dramgwydd troseddol. Fodd bynnag, gall ymyrraeth ar ran yr heddlu yn aml fod yn amhriodol a/neu’n annigonol. Felly gallai fod gwaharddeb sifil yn angenrheidiol.

Gellir gwneud cais am orchymyn anfolestiad yn erbyn person cysylltiedig i rwystro trais pellach a cham-drin domestig. Gellir gwneud gorchmynion hefyd yn mynnu bod y tramgwyddwr yn gadael cartref y teulu. Gelwir y gorchmynion hyn yn orchmynion meddiant, a gellir gwneud cais am y ddau fath o waharddeb i amddiffyn oedolion a phlant.

Gelir gwneud y gorchmynion hyn ar gyfnodau o argyfwng.

 
 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni