Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i
rym ar 5ed Rhagfyr 2005 ac mae'n galluogi cwpwl o'r un rhyw
i gofrestru fel partneriaid sifil i'w gilydd.
Ni ellir terfynu partneriaeth sifil ond
drwy farwolaeth, dirymiad neu ddiddymiad. Mae diddymiad
yn broses a seilir yn y Llys a'r un sail dros ddiddymiad
yw bod y bartneriaeth wedi chwalu y tu hwnt i adfer. I brofi
hyn mae'n rhaid bod un o bedair ffaith bosib gan gynnwys
ymddygiad afresymol, a chyfnod o ddwy flynedd o leiaf o
ymwahanu.
Cofnodir Deiseb am Ddiddymiad gyda'r Llys
gan Ddeisebydd ac fe'i gosodir ar y partner arall sydd wedyn
yn cael cyfle i ymateb. Os na ddadleuir yn erbyn y Ddeiseb,
mae'r Deisebydd wedyn yn cynnig am Orchymyn Amodol (cam
hanner ffordd) i'w gyhoeddi gan y Llys. Bydd y Llys yn caniatáu'r
Gorchymyn Amodol os yw'n fodlon fod y Deisebydd wedi profi'i
achos/hachos. Chwe wythnos ac un diwrnod wedi cyhoeddi'r
Gorchymyn Amodol, gall y Deisebydd wneud cais am y Gorchymyn
Terfynol.
Pan fydd partneriaid sifil yn ymwahanu,
mae angen datrys eu sefyllfa ariannol. Mae gennym yr arbenigedd
i gynghori a chynorthwyo cleientiaid i gwblhau materion
o'r fath. Rydym yn cynghori partneriaid blaenorol i drafod
materion yn uniongyrchol, neu drwy gyfryngiad, gyda chyngor
oddi wrthym ni cyn dod i unrhyw gytundeb. Os na ellir dod
i gytundeb yna gellir gwneud cais drwy'r Llysoedd, Mae'r
rhan helaethaf o achosion yn setlo drwy gytundeb heb yr
angen am wrandawiad terfynol.
|