/
 
 
 
 
 
 

Resolution

  Aelodau o:
   
   
   
   
  Croeso i’r Practis Cyfraith Deulu

 
Sefydlwyd Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins ar 1af Mai 1996 fel y cwmni cyfraith cyntaf yng Nghymru i ymwneud yn gyfangwbl â chyfraith deulu. Am gryn amser bu’n freuddwyd gan bartneriaid y cwmni sefydlu’r practis cyfraith deulu arbenigol hwn.
 
 

Y partneriaid yw Melanie Hamer, Thea Hughes a Rhian Howells. Roedd Melanie a Thea yn gweithio gyda’i gilydd yn gynt yn Adran Cyfraith Deulu Eversheds, Caerdydd. Ers 1996 mae’r Cwmni wedi cynyddu bum gwaith.

 
 
Drwy ganolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud yn llwyr â chyfraith deulu, mae Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn gallu darparu cyngor awdurdodol ac arbenigol. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cwmpasu holl agweddau o’r gyfraith deulu gan gynnwys ysgariad ac ymwahanu, materion plant, materion ariannol a gwasanaethau ar gyfer yr henoed. Cymeradwyir y Cwmni yn rheolaidd mewn cyhoeddiadau cyfreithiol yn seiliedig ar ymchwil annibynnol.
 
 
Mae Practis Cyfraith Deulu Wendy Hopkins yn ymfalchïo yn y gwasanaeth mae’n ei ddarparu. Mae’n ymrwymedig i gôd ymarfer Resolution ac mae hyn yn cynnwys delio â materion mewn modd anwrthdrawiadol.
 
 
Mae’r cwmni’n gallu darparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg.
 
 

cartref proffiliau gwasanaethau newyddion

cysylltwch â ni